Sefydlwyd Theatr Bwcibo yn 2002 gan Heledd a Diana Bianchi
Bwriad y cwmni oedd adrodd hanes cyfraniad menywod i lawr yr oesoedd at fywyd cymdeithasol gwleidyddol a diwylliannol Cymru .
Roedd cynhyrchiad cyntaf y cwmni sef Yr Un Cam (2003) trwy drama a chabaret yn ymdrin â brwydr wleidyddol menywod yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf. Ei cynhyrchiadau diweddaraf yw Catrin Glynd_r a Night Chronicles. Bu Theatr Bwcibo ar daith ledled Cymru gyda’r tair drama, ac yn y flwyddyn 2005 aethpwyd a Catrin Glynd_r allan o Gymru i’r Fringe yng Nghaeredin ac Arundel.
Yn y flwyddyn newydd bydd y Cwmni yn ymestyn ei gorwelion trwy darparu prosiectau hanesyddol megis "theatr dehongli" ac adrodd chwedlau mewn ysgolion, mudiadau ac amgueddfeydd. Gall y cwmni hefyd gynnig prosiectau hanesyddol sy’n berthnasol i’ch ardal chi.
